05/10/2008

Fy amserlen am y flwyddyn

Wi di penderfynu ar fy amserlen i'n llawn o'r diwedd! Felly dyma fe:

Llun
9am-5pm De Kloof, canolfan i'r di-gartref

Mawrth
3pm-11pm 't Arendsnest , helpu'r menywod sy'n byw yna i siopa, coginio, glanhau a wedyn helpu gyda'r astudiaeth Beiblaidd.

Mercher
9am-12pm Kleine Johannes (ar ol i fi benderfynu pa fath o berson wi eisie gwitho gyda)
12:30pm-4:45pm AHA, cynnig cinio a rhywun i siarad gyda a'n mynd allan i strydoedd y red light district i wahodd pobl i ddod i'r gwasaneth 'na yn y nos.
6pm-7pm Cyfarfod wthnosol y ty
8pm-10pm Zin Moment

Iau
9am-12pm Cyfarfod menywod yn eglwys gymunedol Hebron
1pm-4:45pm Drugspastoraat, prynhawn o siarad da pobl sy'n gaeth i gyffurie
5pm-6pm Blikveld, gwneud tudalen i bobl ifanc yn cylchgrawn Cristnogol 'Horizon'
7pm-9pm (bob yn ail wthnos) gwneud pryd i'r house friends

Gwener
10am-12:30pm 't Arendsnest, gofalu ar ol y plant tra bod y menywod yn gwneud rhyw weithgaredd
6pm-9:30pm (bob yn ail wthnos) Hebron, clwb i ferched ifanc rhwng 11-15 oed

Sadwrn
3pm-5pm/7pm-9pm gweithgaredde yn Kleine Johannes

Os chi eisie gwbod beth yw'r prosiecte 'ma edrychwch yn y postiad oddi tano rhwle... Darllen Mwy!

04/10/2008

Fy nghyd-wirfoddols

Dyma'r ty ble wi'n byw. Ni'n byw ar y trydydd llawr. Ma'r wereldhuis ar y llawr gwaelod, ma nhw'n ail neud yr ail lawr ar y funud mewn i prosiect o'r enw 'doctors of the world' a ma Sjaak (ein bos ni a ma'n gwitho i'r eglwys brotestannaidd) yn byw uwchben ni. Ma'r ty mewn lleoliad perffeth achos ma fe ar stryd tawel ond dim ond dwy funud o'r Dam ac o'r Rembrandt Plein a ma gorsaf metro drws nesa yn llythrennol.



Dyma'n stafell fach i sy'n edrych dros ein gardd ni:



Dyma y meic fflachgoch i (er cof am Gymru) wedi ei glymu i un Janna:



Ein bont ni:



Rhain yw'r bobl wi'n byw gyda am y flwyddyn yn y Mission House:

Iain yr 'houseleader'. Ma'n dod o'r Alban a nath e ddod yn syth o'r ysgol i wirfoddoli yn y ty, hwn yw ei ail flwyddyn fel arweinydd, felly ma nawr yn un ar hugen. Ma fe bach o 'Brit', ath e i ysgol breifat achos o'dd ei dad yn y fyddin felly ni'n cal digon o drafodaethe!



Ma Janna rhai misodd yn hyn na fi a'n dod o Sweden. Mae 'di bod yn Tseina am rhai blynyddodd cyn dod yma a'n siarad bach o Mandarin a Sbaeneg a mae'n dweud bo fy acen Swedeg i'n dda! Mae'n bwriadu astudio rhywbeth ar ddiwylliant blwyddyn nesa.



Ma Malte'n ugain oed a'n dod o'r Almaen. Ma da fe lot o ddiddordeb mewn gwleidyddieth felly wi'n dod mlan yn dda da fe. Ma fe di esbonio holl system y Bundestag (dyw e ddim yn hoffi'r enw Reichstag) yn yr Almaen i fi. Gwych. Ddo o'n i ''di gorfod godde fe'n canu yr anthem trw'r dydd achos dydd uniad yr Almaen o'dd e.



(model pose e)

Ma Dorrottya 'di dod yn syth o'r ysgol', felly ma'i ond yn 19 oed. Mae'n dod o Hwngari'n wreiddiol ond mae'n gallu siarad Almaeneg yn berffeth hefyd a na beth mae'n bwriadu i astudio flwyddyn nesa yn Budapest.



Ma Anna ru'n oed a Dorrottya a mae'n dod o'r Almaen. Ma'i thad hi'n Dutch felly'mae'n gallu siarad Iseldireg nawr yn ogystal a Ffrangeg a ma'i Saesneg hi'n dda iawn 'fyd. Mae'n hollol wahanol i fi, mae'n ferch go iawn a'n Gatholig ond ni'n dod mlan yn dda iawn.



Ma Paula'n ugain oed a'n dod o'r Almaen hefyd. Dath hi i wirfoddoli yn Amsterdam oherwydd mae eisiau dod i astudio 'ma flwyddyn nesa er dyw hi methu siarad yr iaith eto!



O ie, a dyma anthem y Mission House: http://www.youtube.com/watch?v=T8YCSJpF4g4
Darllen Mwy!

03/10/2008

'Culture Shocks'

Wi’n delio gyda diwylliant yr Iseldiroedd ond hefyd wi’n byw gyda pobl o 4 diwylliant gwahanol, un o Hwngari, un o Sweden, tri o'r Almaen ac un o'r Alban felly ma'n itha heriol ar adege. Felly dyma'r çulture shocks' wi di dod ar eu traws ers bod ma...

Ma’r Iseldirwyr yn byta’n weddol gynnar ond ma fy nghyd-wirfoddols wedi arfer byta pryd mawr tua 8/9 o’r gloch!

Dy’n nhw ddim yn gwerthu sweds yn yr archfarchnad a wi methu deall unrhywbeth felly wi’n gorfod dyfalu beth yw pethe yn ol y llunie arnyn nhw.

BEICS. Ma gan bawb beic. Hen bobl. Plant 3 oed. Pobl busnes.Pobl di-gartref. Heddlu. Mame gyda babis yn eu basgedi. Gweithwyr cyngor. PAWB. Beics sy’n rheoli’r hewlydd a chi’n cal eich trin fel bo chi’n gar. Ma pobl yn dechre sgwrs ‘da chi tra’n seiclo wrth eich ymyl. A ma pawb yn seiclo’n wyllt.


Gwastadrwydd – do’s dim mynydd na bryn na bwmp i’w weld. Ma rhwbeth ar goll o’r gorwel...

Ma gan y Dutch obsesiwn â vla (ffla). Rhyw fath o iogwrt sy’n cal ei fyta ar ol pob pryd. Wi nawr yn itha hooked. A hefyd krokets a kaas-sufflees.

O’n i ddim yn meddwl bydde’n i’n gorfod gwynebu pla anferth o mosgitos gyda’r nos mewn gwlad yn Ewrop!

Ni’n gorfod gwylio pob ffilm gyda is-deitle (yn enwedig trainspotting) achos dyw fy nghyd-wirfoddols ddim yn gallu dilyn yn Saesneg.

Ma’r frenhines yn boblogaidd iawn yma, ma llunie ohoni ym mhobman a ma pobl wir yn falch ohoni, yr anrhydedd fwya iddyn nhw yw i gwrdd a hi.

Ma pob menyw yn rhoi genedigeth gytre heblaw os oes problem mawr (honna'n un randym, ond newydd bod yn siarad amdano fe)

Ma’u llyfrgell nhw mwy fel sinema, do’s dim tawelwch o gwbl, chi’n gallu gwylio ffilms a gwrando ar CDs, ma’r cadeirie yn hiwj a’n gyffyrddus, a ma’r caffi yn well na un y Gen hyd yn od!
Ma pawb yn caru Guus Meeuwis a’r gan ‘ma: http://nl.youtube.com/watch?v=Ra4-9pN6yXs ma fe’n styc yn y mhen i’n gyson.

Ma’r pobl mor onest a uniongyrchol da chi ma’n neud chi’n nerfus ar y dechre ond wi’n gwerthfawrogi e nawr.

Ma cyffuriau yn rhwbeth mor normal yn y ddinas. A ma’r cyfreithie yn rhyfedd iawn, ma’n anghyfreithlon i gynhyrchu a gwerthu e ond ma hawl da chi ei brynu e o’r coffee shops...ond o ble ma fe’n dod? Ma pawb yn dweud bod gan y coffee shops drws blan on dim drws cefn.

Ac wrth gwrs, dwi heb gwrdd a un person eto o'dd yn gwbod bo Cymru'n wlad a bo' ganddi iaith.
Waar kom je vandaan? (o ble rwy ti'n dod?)
Wales
aaaah, England ja?
Darllen Mwy!

02/10/2008

Y prosiectau

Am y mis cynta ni ‘di bod yn ymweld a dau brosiect y dydd ar draws y ddinas, yn cwrdda arweinwyr y prosiecte a gweld bach o beth ma’ nhw’n neud na. Ma pawb ‘di bod yn gofyn pa fath o brosiecte a phobl wi ‘di gweld felly wi ‘di sgwennu rhwbeth glou am fy argraffiade cynta o bob un o nhw.

Missionair Diaconaal Project ‘Thuiskomen’
Eglwys gymunedol yn nwyrain Amserdam a ma nhw’n neud rhaglenni dyddiol i blant yr ardal. Ma dros 100 o wahanol genhedloedd yn rhan o’r gymuned. Ma’r rhan fwya o’r plant sy’n dod i’r rhaglenni yn fwslemiaid. Ma nhw di ca’l eu symud o amgylch trwy eu bywyde, ma llawer ddim yn nabod eu tadau a do’s gan y mamau ddim lot o amser i rhoi i’w plant.

Felly, ma nhw’n dod i’r eglwys ar ol ysgol a’n cal bwyd achos mewn rhai achosion dy’n nhw heb gal ‘packed luch’ y dydd ‘ny, yna’n cal cyfle i chware a lliwio, ca’l stori o’r Beibl, canu caneuon Cristnogol, chware geme a wedyn gwneud crefft.
Ma hefyd rhaglen i blant yn eu harddege, jyst lle iddyn nhw fod fel bo’ nhw ddim mas heb ar y strydodd. Ma nhw’n cal sgyrsie yna am Gristnogeth hefyd, ma’n rhyw fath o arweiniad tuag at youth alpha.

Wereldhuis
Ma’r prosiect yma ar llawr gwaelod y ty wi’n byw ynddi. Prosiect ar gyfer ceiswyr lloches sydd heb unrhyw bapure ac felly’n byw yma’n anghyfreithlon. Ma nhw’n ca’l eu galw’n ‘illeagels’ gan y llywodreth a ma’u hawlie nhw o ran iechyd a llety a.y.y.b yn ofnadwy. Felly ma’r prosiect yma’n eu helpu nhw i rhoi eu papurau a’u bywyde mewn trefn, yn cysylltu nhw gyda cyfreithiwr, doctor a’n cynnig cwrs iaith am ddim iddyn nhw er mwyn eu integreiddio mewn i’r gymdeithas. Ma’n brosiect gyffrous achos dim ond newydd ddechre ers rhyw fis yw e a dos dim byd o’i fath yn y ddinas er gymint o fewnfudwyr sydd yma.

REGENBOOG GROEP

Hwn yw’r enw ar y grwp o ganolfannau i’r di-gartref/pobl sy’n gaeth i gyffurie sy’n cael eu cyllido gan yr Eglwys Brotestannaidd (fel llawer o’r prosiecte).

Princehoff
Ma’r ganolfan yma yng nghanol y Red light district ar gyfer pobl sy’ wedi bod yn gaeth i gyffurie ers blynyddoedd. Hon yw’r unig ganolfan yn Amsterdam ble ma’ ‘user room’ lle ma modd chwistrellu cyffurie yn ddiogel yno yn ogystal a smygu cyffurie. Ma rhaid iddyn nhw gofrestru a bod yn rhan o ‘support group’ er mwyn gallu ymweld a’r prosiect.

Hwn yw un o’r prosiecte nath effeithio arnai fwya, odd effeth y cyffurie ar y bobl o’dd ‘na yn afiach. O’dd ddim unrhyw fath o ymwybyddieth da nifer ohonyn nhw o beth o’dd yn mynd mlan o’u cwmpas. Dy’n nhw methu siarad rhan fwya o’r amser, ma nhw’n diodde o iselder, clywed lleisie yn eu penne, yn paranoid am bopeth, yn meddwl bod pawb ar eu hol nhw.
Moto y ganolfan yw: ‘we see the person and not the druguser’

Do’s dim byd sydd i weld ohonyn nhw ar y tu fas yn perthyn iddyn nhw. Dy’n nhw ddim yn berchen dim byd i’w hunen rhagor, dy’n nhw ddim hyd yn od yn gallu cadw’r un set o ddillad am fwy na wthnos achos ma rhaid iddyn nhw gyfnewid nhw am rhai glan. Ac mewn nifer o achosion dyw eu cyrff ddim yn perthyn iddyn nhw chwaith achos ma rhaid i’r dynion weithio fel puteinied gyda’r nos er mwyn cal arian i brynu’r cyffurie.

Bwriad y ganolfan yw cynnig ‘safe haven’ iddyn nhw fel petae, lle iddyn nhw ddefnyddio cyffurie’n lan. Ma modd newid nodwydde brwnt am rhai glan, fel bo' ddim perygl iddyn nhw ddal afiechyd ac hefyd ma nhw’n dod a’r rhai brwnt nol wedyn fel nad i nhw’n gadel nhw mewn parc chware neu rhwbeth.

De Kloof
Canolfan i bobl di-gartref. Math o gaffi ar agor 9-5. Cyfle i cal cymdeithas gyda’u cyd strydwyr achos yn ol y gyfreth dyw grwp o bobl ddim yn gallu eistedd gyda’i gilydd ar y stryd yn y ddinas. Yma ma nhw’n gallu cal pryd a choffi, cawod a dillad glan, chware chess neu gwylio ffilm.

Black Water
Tebyg iawn i’r uchod, mwy o bwyslais ar gelf. Ma ‘user room’ yma hefyd.

Drugspastoraat
Prynhawn o gyngor cymdeithasol a cyfle i siarad yn breifat a gweinidog neu a gweithiwr cymdeithasol. Yn ogystal, bob prynhawn Sul ma’ nhw’n cynnal gwasaneth i'r bobl di-gartref yn yr ardal red light. Ma rhywun yn rhoi sgwrs ar destun o’r Beibl, canu i gyfeiliant unrhyw rai o’r di-gartref sy’ di dod a offeryn, a wedyn ma darn ‘interactive’ iawn ar y diwedd ble ma pawb yn trafod y neges. O’n i methu dilyn llawer achos o’dd y cyfan yn Iseldireg ond o’dd gan pawb yno llawer i’w ddweud!

Stratspastoraat
Cor yw hwn bob wthnos sy’n ca’l ei gynnal mewn adeilad yn ein gardd cefn! Ma lot o gwahanol offerynne ‘da nhw a ma ‘da pawb eu solo a’n gwbod pob gair. Ma nhw ‘di canu o flan y frenhines odd yn fraint enfawr iddyn nhw.

Hebron
Eglwys cymunedol yng Ngorllewin Amsterdam yn cal ei redeg gan gwr a gwraig sy’n galw eu hunen yn ‘evangelists’ yn hytrach na gweinidogion. 'Ma’r set-up yna yn anffurfiol iawn. Ma ‘da nhw lot o raglenni i blant ac i bobl yn eu harddegau, astudiaethau Beiblaidd i fenywod ac i ddynion, nosweithie gyda phryd twym i’r cymuned gyfan oherwydd ma’n ardal tlawd a ma nhw ‘di dechre gwasaneth anffurfiol iawn ar y Sul ers cwpwl o flynyddoedd.

Seamen’s Mission
Canolfan i ddynion sy’n byw ar y mor. Ma 98% o’r cynnyrch sydd yn ein tai ni ‘di bod ar long cargo ar y mor rhywbryd. Ma’r rhan fwyaf o’r dynion yn dod o Asia ac yn mynd i weithio ar y mor er mwyn ca’l addysg i’w plant, i brynu ty i’w teulu, neu falle i dalu am driniaeth i aelod o’u teulu. O ganlyniad ma nhw i ffwrdd rhan fwya o’r amser a falle ond gytre am 1 mis o’r flwyddyn. Ma rhai o’r dynion ar y mor am fisoedd heb angori a heb gweld neb. Felly bydden i’n mynd a siarad ‘da nhw, rhoi sim cards Íseldireg iddyn nhw fel bo nhw’n gallu ffonio adre neu dod a ffurf digidol o bapur newydd yn eu hiaith nhw i’r cwch oherwydd do’s dim digon o arian ganddyn nhw i ymweld a’r ddinas.
Elandstraat
Canolfan i bobl ifanc gysgu i ffwrdd o’r stryd. Lle i helpu nhw ddechre bywyd ac i gael nhw i wneud pethe dros eu hunen.

AHA
Canolfan efengylol yng nghanol y red light district. Ma Llawer o bobl di-gartref yn mynd na ond ma fe ar agor i unrhyw un sy’n unig ac eisie siarad. Ma’r pwyslais yn gyntaf ar rannu’r efengyl. Ma nhw’n trwsio beics, gwaith coed, coginio a rhai dyddiau ma cyfle i fenywod di-gartref ddod a cael eu gwallte ‘di neud, a cal colur a.y.y.b. Ma gwasaneth gyda’r hwyr bob wthnos a phryd o fwyd twym.

Kleine Johannes
Canolfan ar gyfer pobl anabl rhnwg 3 ag 80 oed i fyw. Ma’ tua 100 yn byw ‘na mewn rhyw fath o ‘complex’ o fflatie a neuadde, ma nhw'n byw mewn grwpie o 4-7 o bobl o’r un oed a salwch a nhw. Odd y fenyw yn disgrifio split eitha clir yn y bobl sy’n byw yna, bod 50% o’r bobl ‘na achos bo’ nhw’n ‘illborn’, wedi’u geni gyda salwch difrifol, a ‘di dod i oedran ble bydde person cyffredin yn symud oddi cartref ond do's dim unman gyda nhw i fynd felly’n symud i fyw mynd yma. Ma teuluodd y rhai yma yn dod i’w gweld a’n neud lot drostyn nhw. Do's gan y 50% neb. Ma nhw wedi’u geni yn gaeth i gyffurie yn fabi achos bod y rhieni ‘di bod yn cymryd cyffurie tra’n disgwyl. Yn aml iawn ma' gan y rhieni yr un probleme a nhw oherwydd bod eu rhieni hwythe ‘di neud yr un peth, felly ma’n gylch dieflig. Dy’n nhw ddim yn cal unrhyw ymweliadau nac unrhyw gysylltiad ‘da neb heblaw am gweithwyr y lle.

Ma pobl yn byw ‘na gyda pob math o salwch, y rhai mwya cyffredin yw autism a down syndrome. Oedran meddyliol y bobl ar gyfaltaredd yw 3/4 oed a ma’n amhosib iddyn nhw ddatblygu yn hynny. Ma’r plant yn mynd i ysgol arbennig yn y dydd sydd a phwyslais ar fod yn greadigol yn hytrach na ysgol academaidd. Ma rhai o’r oedolion yn gallu cal rhyw fath o swydd sydd ddim yn gofyn lot.

Welon ni un bachgen tua 20 oed odd yn edrych yn hollol normal am fachgen o’i oedran. Ond ei oed feddyliol odd 3 oed, a’r broblem odd ei fod yn gryf iawn a’n ymosodol felly odd e’n gorfod cael 2 ddyn i ofalu amdano fe 24 awr y dydd. Hefyd welon ni un dyn odd yn autistic a’n fyddar, gath e ei roi yn y lle ma pan odd e’n 40oed a do’dd e heb dysgu sign language yn ifanc felly odd dim unrhyw ffordd da fe o gyfathrebu da’r pobl sy’n gwitho na o gwbl.

Odd un adeilad ble o’n i ddim yn cal mynd mewn. Odd rhieni y bobl odd yn byw na wedi talu amdano. Odd 6 dyn canol oed mewn cadeirie olwyn yn byw na gyda oedran meddyliol o babi 2/3 mis oed.

Ma lot sy’n byw ‘na methu dangos na teimlo emosiyne a theimlade o gwbl, dy’n nhw methu dangos cariad achos dy’n ddim yn gwbod beth yw e, dy’n nhw byth di derbyn e o’r blan. Ond odd y fenyw yn dweud wrtho ni ddim i dimlo’n sori drostyn nhw, ma nhw’n hapus gyda beth sy ‘da nhw, dy’n ddim yn gwbod unrhyw ffordd arall o fyw.

Blikveld
Cwpwl o dudalennau yn y cylchgrawn protestannaidd ‘horizon’ gyfer pobl ifanc.

Kuria
Hospis sydd a lle i 11 o bobl sydd a ond tri mis i fyw. Pan es i na o’n i’n disgwl rhyw fath o ward ar ysbyty ond odd e mwy fel cartre. Ma lot yna chos bo gennyn nhw hanes hir o cheamo a gwahanol driniaethe, ma’n haws i’r teulu iddyn nhw ddod i lle fel hyn chos ma’r gweithwyr yn neud y stwff llafurus dros y bobl a’r teulu wedyn yn gallu jyst hala amser yn eu cwmni yn eu misodd ola.

Ma’r rhan fwya sy’n dod yna yn diodde o Gancr. Odd dwy fenyw na yn eu hugeinie odd yn diodde o Aids. Dy’n nhw ddim yn derbyn tiniaethe er mwyn eu gwella oherwydd ma nhw’n gwbod nad o’s modd iddynt wella felly ma nhw ond derbyn pethe i lleddfu’r boen yno.

Writers Club
Clwb gyfer y di-gartref. Cal ei redeg gan nofelydd. Cal tasg ar dechre bob sesiwn e.e. pan o’n ni yno, dychmygu fod cynhyrchydd ffilmie di dod ato chi eisie gwneud ffilm am eich bywyd a o ni fod sgrifennuu preview o’r ffilm. Ma bob tasg yn ceisio cal y bobl i agor lan am eu bywyde mewn rhyw ffordd.

Kerkhuis
Canolfan sy’n gwitho da’r eglwysi Affricannaidd yn Ne Amsterdam. Ma nhw ar agor bob dydd gyda gwahanol gweithgaredde a gweithdai i integreiddio pobl mewn i’r cymdeithas oherwydd ma rhai sy’ ddim yn gwbod sut i cal doctor na unrhyw fath o help mewn dinas. Ma youth explosion bob wthnos sy’n rhoi gwersi danso, canu, a sgwrs am Dduw. Ma gospel disco bob mis sy’n wych.

‘t Arendsnest
Ty Cristnogol i fenywod ifanc sydd a phrobleme seiciatrig sydd heb unman i fynd. Ma’r rhan fwya di rhedeg bant o gytre neu ‘di rhedeg i bant o berthynas dreisgar. Ma gan lot o nhw blant ‘na a ma’n nhw’n cal help ac hyfforddiant ar sut i o falu amdanyn nhw. Ma nhw’n cal astudieth Feiblaidd bob wthnos a getho ni dystioleth un o’r menwod ifanc na, siwd odd hi di rhoi ei bywyd i Grist tra’n byw yno. Ma nhw’n cal byw yma am flwyddyn, a’n cal stafell eu hunen a chawod. Ma’r lle yn helpu nhw i ffindo swydd, ty, ac i gal rheoleth dros eu bywyde.
Moto – ‘work with the people, not for the people.’

Zusters
Canolfan crisis gyfer menywod rhwng 20-40 sydd heb unman i fynd achos mewn nifer o achosion yn dianc wrth buteindra/partner treisgar. Lleianod nath ddechre fe, o nhw eisiau rhoi lle i mame ifanc sengl a lle i puteinied odd ishe newid eu ffordd o fyw. Ond ath y lleianod yn rhy hen (ma nhw tua 80oed nawr) a dodd ddim rhai ifanc newydd yn ymuno, felly getho nhw bobl proffesiynol mewn i helpu nhw i rhedeg y lle.

Ma’r menwod ond yn gallu aros ma am 8 wythnos achos lle i fenwod mewn crisis yn unig yw e, wedyn ma nhw’n cal eu symud i brosiect mwy sefydlog. Ma gweithgaredde a ‘chores’ iddyn nhw wneud yn ystod y dydd wedyn ma nhw’n gorfod mynd i’r gwely am 10:30pm, ond bron bob nos ma’r heddlu yn dod a menwy nol i’r canolfan yn orie man y bore.
Darllen Mwy!

01/10/2008

Pethe doniol sy' 'di digwydd yn y mis dwetha

Cwrdda dau cyn wirfoddolwyr o’r Mission House o’r enw Boris Becker a Franz Ferdinand! Hefyd di cwrdda boi ma o’r enw Diego wedi’i enwi ar ol Maradonna a’i ail enw odd Jones!

Mynd i gwasaneth AHA yn y red light district, dod mas tua 10pm a Malte di ‘colli ei allweddi’, chwilo am orie, yn y diwe’ sylweddoli bo nhw yn clo ei feic, odd e di gadel nhw na am orie yn y red light district.

Prynhawn doniol o gyfieithu’r gan ‘yesterday’ i Iseldireg yn ein gardd ni da Rob, dyn di-gartref sy’n rolyrbledo rownd y lle bob dydd tra’n chware ei gitar a’i harmonica.

Ma pob breuddwyd wi’n cal yn hileriys chos ta be sy’n digwydd wi ar y meic yn mynd i bobman!

Etho ni i vondel park i chware volleyball a nath y pel cwmpo mewn i’r canal, a nath pawb dod yn infolfd yn helpu ni i achub y bel. Odd cychod twristaidd yn rhyw fath o ‘skiddo’ yn y dwr er mwyn achosi ripples fel bo’r pel yn dod i’r lan,


nath garddwr menthyg ei ysgub i ni trial mestyn y bel, ond nath dim gwitho tan i gwch masif ddod a nath y capten neidio lawr ar y dec a defnyddio hosepipe i cal y bel i’r lan!



Ma ‘da Anna tad dutch felly ma’r iaith wastad di bod ynddi rhwle, mae wastad di deall bron popeth ond byth di gallu siarad gair so odd e’n ddoniol pan ath hi i brosiect yn ddi-iseldireg a dod nol rhai orie wedyn yn gallu’n siarad yn rhugl bron achos bo na ddyn na ‘di gwrthod adel iddi siarad unrhywbeth ond iseldireg ac felly gath hi’r hyder.

E-bost doniol wrth dad yn disgrifio y cwrdd chwarter yn troi mewn i “ocsiwn gwyllt” o faint o arian dylid cyfrannu i ngwaith i, o’dd rhaid i fi chwerthin.

Dino lan un bore da’n llygad i, ngwefus i a mys i ‘di chwyddo lan yn masif achos bo fi di diodde rhyw fath o alergedd i’r mosgitos. Cal y ngalw yn ffat ffinger (ac felly princess fiona), ffat eye, a ffat lip (ac felly angelina jolie) trw’r wthnos.

Cal conference call ‘da Hedd a dad ar skype a nhw ddau yn yr un stafell a dim un o nhw da rhwbeth i ddweud (joc!)

Y bois yn rhoi mosgito nets lan a’u gwelye yn edrych fel rhai fairy princess.

Bachgen 11 oed o’r Iseldiroedd yn taeru da Malte mai nid yr Almaen nath ddechre’r ail rhyfel byd a’n cywiro ei Saesneg trw’r dydd.

Gwylio Paula yn swingo’n wyllt tra’n methu bwrw un pel mewn wii tennis.

Chwythu lan tua mil o balwns da helium i parti agoriadol y wereldhuis, Janna yn canu lonely o dan ddylanwad helium, a twgyd dege o nhw nol i MH er mwyn cal ‘parti helium’.

Dysgu Anna i gyfri i 10 yn Gymrag a hi’n neud e fel act yn y noson ddiwylliannol o flan pawb. Profiad rhyfedd clywed rywun yn siarad cymrag da acen Almaeneg.'

Malte yn dynwared y 'flying Dutchman'

Es i i siopa echdoe ar gyer neud swper a nghynllun odd neud salad ffrwythe so o'n i'n teithio nol ar y meic da dau bag llawn o ffrwythe ar fy handlebars a'r swper ar y nghefn, wen i jyst yn mynd trwy sgwar mawr gyda ceir yn aros i ruthro amdanai o bob ochr pan nath y bag rhwygo'n hanner! Gorfes i adel y ffrwythe yng nghanol y sgwar ond chware teg nath rhyw foi caredig pigo nhw lan a dod a nhw atai. Ond wedyn o'dd da fi'r dilema o adel y ffrwythe neu gadel y beic so yn naturiol nes i orfod rhannu'r ffrwythe mas i bobl ar y stryd! O'n i'n timlo fel y menyw ar yr hysbyseb Diet Coke...

Ma nhw’n ail neud yr hewl tu fas y ty, felly ma twll mawr di bod yn yr hewl ers mis yn llawn tywod, ac wrth gwrs tra’n trial manwfro rownd e ar y meic nes i gwmpo mewn o flan lor o bobl da’r meic ar y mhen.
Darllen Mwy!