Ma’r Iseldirwyr yn byta’n weddol gynnar ond ma fy nghyd-wirfoddols wedi arfer byta pryd mawr tua 8/9 o’r gloch!
Dy’n nhw ddim yn gwerthu sweds yn yr archfarchnad a wi methu deall unrhywbeth felly wi’n gorfod dyfalu beth yw pethe yn ol y llunie arnyn nhw.
BEICS. Ma gan bawb beic. Hen bobl. Plant 3 oed. Pobl busnes.Pobl di-gartref. Heddlu. Mame gyda babis yn eu basgedi. Gweithwyr cyngor. PAWB. Beics sy’n rheoli’r hewlydd a chi’n cal eich trin fel bo chi’n gar. Ma pobl yn dechre sgwrs ‘da chi tra’n seiclo wrth eich ymyl. A ma pawb yn seiclo’n wyllt.
Gwastadrwydd – do’s dim mynydd na bryn na bwmp i’w weld. Ma rhwbeth ar goll o’r gorwel...
Ma gan y Dutch obsesiwn â vla (ffla). Rhyw fath o iogwrt sy’n cal ei fyta ar ol pob pryd. Wi nawr yn itha hooked. A hefyd krokets a kaas-sufflees.
O’n i ddim yn meddwl bydde’n i’n gorfod gwynebu pla anferth o mosgitos gyda’r nos mewn gwlad yn Ewrop!
Ni’n gorfod gwylio pob ffilm gyda is-deitle (yn enwedig trainspotting) achos dyw fy nghyd-wirfoddols ddim yn gallu dilyn yn Saesneg.
Ma’r frenhines yn boblogaidd iawn yma, ma llunie ohoni ym mhobman a ma pobl wir yn falch ohoni, yr anrhydedd fwya iddyn nhw yw i gwrdd a hi.
Ma pob menyw yn rhoi genedigeth gytre heblaw os oes problem mawr (honna'n un randym, ond newydd bod yn siarad amdano fe)
Ma’u llyfrgell nhw mwy fel sinema, do’s dim tawelwch o gwbl, chi’n gallu gwylio ffilms a gwrando ar CDs, ma’r cadeirie yn hiwj a’n gyffyrddus, a ma’r caffi yn well na un y Gen hyd yn od!
Ma pawb yn caru Guus Meeuwis a’r gan ‘ma: http://nl.youtube.com/watch?v=Ra4-9pN6yXs ma fe’n styc yn y mhen i’n gyson.
Ma’r pobl mor onest a uniongyrchol da chi ma’n neud chi’n nerfus ar y dechre ond wi’n gwerthfawrogi e nawr.
Ma cyffuriau yn rhwbeth mor normal yn y ddinas. A ma’r cyfreithie yn rhyfedd iawn, ma’n anghyfreithlon i gynhyrchu a gwerthu e ond ma hawl da chi ei brynu e o’r coffee shops...ond o ble ma fe’n dod? Ma pawb yn dweud bod gan y coffee shops drws blan on dim drws cefn.
Ac wrth gwrs, dwi heb gwrdd a un person eto o'dd yn gwbod bo Cymru'n wlad a bo' ganddi iaith.
Waar kom je vandaan? (o ble rwy ti'n dod?)
Wales
aaaah, England ja?
2 comments:
dwi'n siwr i mi weld chwaer fach Ruud Van Nistelrooy yn y gynulleidfa yn y gig ! Antitdot da i ddiwylliant hunan-bwysig selebs saesneg
Llyr wedi ffindo Sweds yn yr Albert Hein (fi'n meddwl fylna ti'n sgwennu fe!) a galla i gadarnhau bod Vla yn hyfryd yn enwedig da sbrincyls siocled. Ma'n teulu ni i gyd yn hooked arno fe nawr yn enwedig y plant! Os rhywun yn gwbod os ma fe'n ca'l ei werthu yng NGhymru o gwbwl - ni'n ca'l withdrawl symptoms!
Post a Comment