30/09/2008

Eisiau gwneud Iesu'n enwog

Wi di bod i ffwrdd o Gymru am fis gyfan! Newydd sylweddoli mai hwn yw’r hira’ wi di bod heb weld mynydd/bryn a heb siarad Cymra’g (wyneb yn wyneb) erioed. Fi mewn limbo ar y funud yn y ddinas hyfryd ma, wi yn y cyfnod rhwng ymweld a dege o brosiecte ar draws y ddinas a’r cyfnod ble wi myn’ i ddechre gwitho ynddyn nhw. Felly, o’n i’n meddwl bod hwn yn amser da i ddechre blog i weud be’ wi ‘di neud a pam bo’ fi ‘ma.

Disclaimer: maddeuwch i fi am y Nghymrag sbwriel (odd honna’n fwriadol), ma ‘da fi esgus, ma meddylie i ’di bod yn ieithyddol amhur yn y mis dwetha rhwng gorfod meddwl trwy gyfrwng Saesneg, Cymraeg Iseldireg ac Almaeneg!

Wi’n siwr bo pawb ishe gwbod pam y mod i ‘di dewis dod i weithio yn yr anenwog ‘red light district’ am fwlyddyn. Wel, mewn gwirionedd, am yr un rheswm a’r puteiniaid byddai’n gwitho yma gyda. Ma nhw ‘ma i rhoi eu cyrff a’ henaid i rywun bob dydd a’r rheswm wi ‘ma yw achos y mod i ‘di rhoi fy hunan i Iesu Grist. Falle bo’ hyn yn swno’n gawslyd neu’n eithafol (peidwch becso, wi di arfer cal y ngalw’n ‘ny) i rai ond ‘na’r gwir pam wi ma. O’n i’n darllen yr adnode ma gan Paul y dydd nes i ddarllen am y prosiect yn Amserdam:

1 Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich cyrff iddo fel aberthau byw – rhai sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! 2 O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
(Rhufeiniaid 12:1-2, Beibl.net)

Er bod y rhan fwya o bobl yn casau’r gair, wi’n credu bo’ pawb yn ‘grefyddol’ am rwbeth. Ma pawb yn byw am rwbeth, ma da pawb eu cyffur, prun ai bod e’n stwff chi’n gallu rhoi yn llythrennol yn eich gwa’d neu falle i fod yn boblogaidd, i cal gradd i’ch enw a cal eich adnabod fel person ‘doeth’, neu i ca’l bywyd tawel a thy glan a theulu neis, neu jyst i ca’l eu cofio am rwbeth, cal rhyw fath o hunanieth i’w hunen. Des i’n Gristion cwpwl o flynyddodd nol a ’na beth sy’ ‘di arwen fi fyn hyn. Nath beth o’n i’n byw iddo fe newid yn llwyr. Nes i weld mai nid rhestr o ddefode i dico bant o’dd i fod yn Gristion, ond o’dd e’n rhwbeth byw, o’dd e’n golygu rhoi eich bywyd chi i ffwrdd mewn ffydd i’r dyn ‘syml’ hwn 2000 o flynyddodd nol o’dd yn hawlio mai fe o’dd Duw. A dyna’r rheswm pam bo ‘da fi ddigon o gyts i weithio gyda’r math o bobl byddai’n gwitho ‘da bob dydd, dim achos unrhyw beth i fi di neud ond achos wi’n gwbod bod y mywyd i yn ei ddwylo Ef. Felly, ers dod yn Gristion wi’n byw yn hollol i Iesu Grist, fe yw sail popeth wi’n neud, ma’n hunanieth i wedi ei selio arno fe, fy nod i yn Amsterdam ac unrhyw le arall fydda i yw i wneud Iesu’n enwog.

No comments: