05/10/2008

Fy amserlen am y flwyddyn

Wi di penderfynu ar fy amserlen i'n llawn o'r diwedd! Felly dyma fe:

Llun
9am-5pm De Kloof, canolfan i'r di-gartref

Mawrth
3pm-11pm 't Arendsnest , helpu'r menywod sy'n byw yna i siopa, coginio, glanhau a wedyn helpu gyda'r astudiaeth Beiblaidd.

Mercher
9am-12pm Kleine Johannes (ar ol i fi benderfynu pa fath o berson wi eisie gwitho gyda)
12:30pm-4:45pm AHA, cynnig cinio a rhywun i siarad gyda a'n mynd allan i strydoedd y red light district i wahodd pobl i ddod i'r gwasaneth 'na yn y nos.
6pm-7pm Cyfarfod wthnosol y ty
8pm-10pm Zin Moment

Iau
9am-12pm Cyfarfod menywod yn eglwys gymunedol Hebron
1pm-4:45pm Drugspastoraat, prynhawn o siarad da pobl sy'n gaeth i gyffurie
5pm-6pm Blikveld, gwneud tudalen i bobl ifanc yn cylchgrawn Cristnogol 'Horizon'
7pm-9pm (bob yn ail wthnos) gwneud pryd i'r house friends

Gwener
10am-12:30pm 't Arendsnest, gofalu ar ol y plant tra bod y menywod yn gwneud rhyw weithgaredd
6pm-9:30pm (bob yn ail wthnos) Hebron, clwb i ferched ifanc rhwng 11-15 oed

Sadwrn
3pm-5pm/7pm-9pm gweithgaredde yn Kleine Johannes

Os chi eisie gwbod beth yw'r prosiecte 'ma edrychwch yn y postiad oddi tano rhwle...

2 comments:

Linda said...

Wedi bod yn darllen am y prosiectau gwahanol, ac yn dymuno y gorau i ti ar dy flwyddyn yn Amsterdam. Yn dy edmygu yn fawr iawn am gymeryd y fath gyfrifoldeb. Dim ond tua pedair awr yr wythnos dwi'n gwirfoddoli efo pobl digartref,ac anabl , a hynny yn y gegin gawl.
'Roedd y dyfyniad gennyt mewn pôst cynharach yn un i'w gofio....unigolion ydynt tu ôl i'r cyffuriau , anabledd a phroblemau dirif. Dwi'n cofio un o'r pethau ddaru fy synu i fwyaf pan gychwynais i wirfoddoli yn y GG , oedd clywed gymaint ohonynt yn dweud diolch . Ac mi fydd 'na lawer yn ddiolchgar i tithau am dy waith dwi'n siwr.
Lwc dda i ti !

Anonymous said...

Pryd mae'r postiad nesaf Gwenno? Dere 'mlaen! ;-)