04/10/2008

Fy nghyd-wirfoddols

Dyma'r ty ble wi'n byw. Ni'n byw ar y trydydd llawr. Ma'r wereldhuis ar y llawr gwaelod, ma nhw'n ail neud yr ail lawr ar y funud mewn i prosiect o'r enw 'doctors of the world' a ma Sjaak (ein bos ni a ma'n gwitho i'r eglwys brotestannaidd) yn byw uwchben ni. Ma'r ty mewn lleoliad perffeth achos ma fe ar stryd tawel ond dim ond dwy funud o'r Dam ac o'r Rembrandt Plein a ma gorsaf metro drws nesa yn llythrennol.



Dyma'n stafell fach i sy'n edrych dros ein gardd ni:



Dyma y meic fflachgoch i (er cof am Gymru) wedi ei glymu i un Janna:



Ein bont ni:



Rhain yw'r bobl wi'n byw gyda am y flwyddyn yn y Mission House:

Iain yr 'houseleader'. Ma'n dod o'r Alban a nath e ddod yn syth o'r ysgol i wirfoddoli yn y ty, hwn yw ei ail flwyddyn fel arweinydd, felly ma nawr yn un ar hugen. Ma fe bach o 'Brit', ath e i ysgol breifat achos o'dd ei dad yn y fyddin felly ni'n cal digon o drafodaethe!



Ma Janna rhai misodd yn hyn na fi a'n dod o Sweden. Mae 'di bod yn Tseina am rhai blynyddodd cyn dod yma a'n siarad bach o Mandarin a Sbaeneg a mae'n dweud bo fy acen Swedeg i'n dda! Mae'n bwriadu astudio rhywbeth ar ddiwylliant blwyddyn nesa.



Ma Malte'n ugain oed a'n dod o'r Almaen. Ma da fe lot o ddiddordeb mewn gwleidyddieth felly wi'n dod mlan yn dda da fe. Ma fe di esbonio holl system y Bundestag (dyw e ddim yn hoffi'r enw Reichstag) yn yr Almaen i fi. Gwych. Ddo o'n i ''di gorfod godde fe'n canu yr anthem trw'r dydd achos dydd uniad yr Almaen o'dd e.



(model pose e)

Ma Dorrottya 'di dod yn syth o'r ysgol', felly ma'i ond yn 19 oed. Mae'n dod o Hwngari'n wreiddiol ond mae'n gallu siarad Almaeneg yn berffeth hefyd a na beth mae'n bwriadu i astudio flwyddyn nesa yn Budapest.



Ma Anna ru'n oed a Dorrottya a mae'n dod o'r Almaen. Ma'i thad hi'n Dutch felly'mae'n gallu siarad Iseldireg nawr yn ogystal a Ffrangeg a ma'i Saesneg hi'n dda iawn 'fyd. Mae'n hollol wahanol i fi, mae'n ferch go iawn a'n Gatholig ond ni'n dod mlan yn dda iawn.



Ma Paula'n ugain oed a'n dod o'r Almaen hefyd. Dath hi i wirfoddoli yn Amsterdam oherwydd mae eisiau dod i astudio 'ma flwyddyn nesa er dyw hi methu siarad yr iaith eto!



O ie, a dyma anthem y Mission House: http://www.youtube.com/watch?v=T8YCSJpF4g4

3 comments:

Blewyn said...

Pam ti'n dysgu Malayalam Gwenno ? Dwi'n gweithio efo nifer fawr o hogiau Malu.

ioio said...

dwi newydd weld dy fet Malte ar y teli - yn ffilm Harri Potter

Haulwen said...

Helo Gwenno,
O'r diwedd yn anfon gair ar ran Eglwys Tabernacl Pencader ac yn enwedig yr Ysgol Sul. Wedi clywed am dy drafferthion bore Nadolig, ac yn diolch i Dduw am edrych ar dy ol di. Yn meddwl amdnant yn aml, ac yn gweddio drosot.
Diolch i ti am y gwaith yr wyt yn ei wneud.
Blwyddyn newydd dda i ti oddiwrth pawb yma.
Haulwen